Credwn ym mhwysigrwydd diogelu preifatrwydd ein defnyddwyr tra ein bod hefyd yn darparu gwasanaeth penodol a buddiol. Mae’r Datganiad Polisi Preifatrwydd hwn yn esbonio’n polisïau.

Os oes gennych unrhyw gwestiwn neu ymholiad ar unrhyw bryd ynglŷn â’ch manylion personol neu ein harferion, anfonwch neges at duty@fostercarecooperative.co.uk neu drwy’r post at Penny Hall, The Haysfield, Spring Lane North, Malvern, Worcs WR14 1GF.

Pa wybodaeth ydyn ni yn ei chasglu?

Rydym yn casglu eich gwybodaeth bersonol pan fyddwch yn llenwi ffurflen ymholiad neu’n llenwi ffurflen a lawrlwythwyd.

Rydym hefyd yn casglu gwybodaeth yn awtomatig am eich ymweliadau â’n gwefan, er enghraifft eich patrwm pori. Fodd bynnag, nid yw gwybodaeth a gasglwyd yn y modd hwn ond yn cael ei ddefnyddio yn ei ffurf grynswth ac nid yw’n cael ei gysylltu ag unrhyw unigolion canfyddadwy.

Sut ydyn ni’n defnyddio’r wybodaeth?

Rydym yn defnyddio’r wybodaeth a gesglir duty@fostercarecooperative.co.uk yn y ffyrdd canlynol:

  • I brosesu eich ymholiad a rhoi’r ateb mwyaf priodol
  • Mae’n bosibl y byddwn hefyd yn defnyddio’r wybodaeth yn ei ffurf grynswth i’n helpu i ddadansoddi, datblygu a rheoli’r wefan.

Cwcis – Beth ydyn nhw a sut ydyn ni yn eu defnyddio?

Darnau o wybodaeth electronig y gall gwefan drosglwyddo i’ch disg caled yw cwcis. Maent yn helpu i deilwra ac i gadw cofnod o’ch ymweliadau â’r wefan honno. Maent yn ein galluogi i addasu eich ymweliadau â’r wefan yn unol â’ch dewisiadau unigol ac yn ein helpu i ddarparu’r gwasanaeth gorau posibl ar ein gwefan. Mae’r rhan fwyaf o’r gwefannau mwyaf yn defnyddio cwcis ac mae eu defnydd yn gyffredin ar y Rhyngrwyd. Mae’r rhan fwyaf o borwyr yn derbyn y cwcis yn awtomatig, ond gallwch newid eich gosodiadau fel eich bod yn cael eich hysbysu pa bryd bynnag yr anfonir cwci atoch.

Dolenni

Mae’n bosibl bod y wefan hon yn cynnwys dolenni i wefannau eraill. Nodwch os gwelwch yn dda nad ydym yn gyfrifol am bolisïau preifatrwydd gwefannau eraill. Rydym yn eich argymell i ddarllen y datganiadau preifatrwydd wrth fynd i mewn i wefannau eraill. Mae’r datganiad preifatrwydd hwn yn cyfeirio at yr wybodaeth a gesglir gan y wefan hon.

Newidiadau i’n polisi

Cadwn yr hawl i wneud newidiadau i’n Polisi Preifatrwydd. Bydd y newidiadau hynny’n cael eu cyhoeddi ar y dudalen hon. Gofynnwn i chi ddod yn ôl i’r dudalen hon yn rheolaidd i weld a oes newidiadau. Byddwn yn defnyddio gwybodaeth yn unol â’r polisi preifatrwydd oedd yn effeithiol pan gasglwyd yr wybodaeth.